Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
27 Mawrth 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5572
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd cwestiynau 1-2, 4-7 a 9. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Ni ofynnwyd cwestiwn 8. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.08
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7022 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
1 |
42 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.15
NDM7015 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.17
Gofyn i’r Prif Weinidog
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn ymateb i benderfyniad yr Uchel Lys heddiw ynghylch yr ymchwiliad o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines i ddiswyddo Carl Sargeant?
Noder y cafodd y cwestiwn ei ateb gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Dechreuodd yr eitem am 15.29
Gwnaeth Dawn Bowden ddatganiad am- Menywod yn erbyn cau'r pyllau.
Gwnaeth Nick Ramsay ddatganiad am - Codi ymwybyddiaeth o Apêl Seiclon Idai y DEC yn dilyn y seiclon a ysgubodd drwy Simbabwe, Mozambique a Malawi yn ddiweddar.
Gwnaeth Leanne Wood ddatganiad - marwolaeth yr artist o’r Rhondda, Elwyn Thomas
Dechreuodd yr eitem am 15.35
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6990 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) pwysigrwydd rygbi i bobl Cymru, y manteision economaidd sy'n gysylltiedig â'r gêm, a'i lle arbennig yng ngwead cymunedau ledled ein cenedl;
b) yr heriau ariannol a strwythurol sy'n wynebu rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd;
c) goblygiadau posibl 'Project Reset' Undeb Rygbi Cymru ar rygbi proffesiynol a'r strwythur rhanbarthol yng Nghymru, ac ar y gwasanaethau lleol a chymunedol ychwanegol a ddarperir ar hyn o bryd gan y rhanbarthau; a
d) y pryderon cryf a fynegwyd gan gefnogwyr ynghylch y posibilrwydd o uno rhanbarthau'r Gweilch a'r Sgarlets.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid rhanbarthol/clwb i ddiogelu rygbi yng Nghymru a llunio model cynaliadwy tymor hir ar gyfer y gêm ar lefel ranbarthol ac ar lawr gwlad.
Cyd-gyflwynwyr
Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru)
Huw
Irranca-Davies (Ogwr)
Cefnogwyr
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David
Rees (Aberafan)
Hefin
David (Caerffili)
Janet
Finch-Saunders (Aberconwy)
Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Lynne
Neagle (Torfaen)
Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru)
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Mohammad
Asghar (Dwyrain De Cymru)
Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
15 |
0 |
42 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.17
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7018 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
2. Yn cydnabod yr heriau ariannol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
3. Yn nodi bod trethdalwyr Cymru, ar hyn o bryd, yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor nag yn Lloegr na'r Alban.
4. Yn gresynu bod
a) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi treblu ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999; a
b) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
35 |
43 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod lefelau treth gyngor ar gyfer eiddo band D yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai yn Lloegr.
Yn cydnabod bod y fformiwla gyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu yn flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
17 |
42 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
[Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod fod y dreth gyngor wedi cynyddu oherwydd llymder a weithredwyd gan San Steffan a diffyg blaenoriaeth ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru wrth lunio'r gyllideb.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
32 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y cysylltiad pwysig rhwng y GIG a llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
0 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau neilltuedig er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth i lywodraeth leol wario grantiau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
8 |
0 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7018 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
2. Yn cydnabod yr heriau ariannol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
3. Yn nodi bod lefelau treth gyngor ar gyfer eiddo band D yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai yn Lloegr.
4. Yn cydnabod bod y fformiwla gyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu yn flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru.
5. Yn cydnabod y cysylltiad pwysig rhwng y GIG a llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau neilltuedig er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth i lywodraeth leol wario grantiau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
8 |
11 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.14
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7019 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd yn ymrwymo aelod-wladwriaethau i symud tuag at uno agosach fyth ymhlith pobl Ewrop.
2. Yn gresynu bod yr UE, ers 1973, wedi cymryd pŵer oddi ar seneddau cenedlaethol etholedig, ac wedi ei ganoli yn nwylo sefydliadau anetholedig yr UE.
3. Yn nodi bod fetoau cenedlaethol yn cael eu herydu wrth ffafrio pleidlais y mwyafrif yng Nghyngor y Gweinidogion, mewn nifer gynyddol o feysydd polisi, ac y bydd y duedd hon yn parhau am gyfnod amhenodol.
4. Yn credu bod ansicrwydd parhaus y trafodaethau rhwng yr UE a'r Deyrnas Unedig yn creu perygl y bydd y Deyrnas Unedig yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yn groes i ewyllys penderfyniad y pobl fel y mynegwyd yng nghanlyniad refferendwm 2016.
5. Yn credu bod y prosiect Ewropeaidd yn rym ddi-baid, yn cael ei hyrwyddo gan sefydliadau parhaol yr UE, yn arbennig y Comisiwn, a bod y risgiau o aros o fewn yr UE yn cynnwys dod yn ddarostyngedig i fyddin Ewropeaidd, rhagor o integreiddio economaidd ac erydu sofraniaeth y Deyrnas Unedig.
6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar ddod i gytundeb masnach rydd gyda'r UE mor gyflym â phosibl, er mwyn hwyluso'r broses o ymadael yn llawn a dirwystr â'r Undeb Ewropeaidd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
3 |
0 |
40 |
43 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ym mis Mehefin 2016.
2. Yn credu bod yn rhaid parchu canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ac y dylid gweithredu'r penderfyniad i ymadael.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
35 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod yr Undeb Ewropeaidd a’i ragflaenydd wedi bod yn rym cadarnhaol dros heddwch a sefydlogrwydd parhaus yn Ewrop ers ei sefydlu.
2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r safbwynt a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn pleidleisiau olynol ar 4 Rhagfyr 2018, 30 Ionawr 2019 a 5 Mawrth 2019.
3. Yn credu beth bynnag fydd canlyniad y negodiadau presennol, y dylai’r Deyrnas Unedig geisio cynnal y cysylltiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol agosaf posibl rhwng y DU a’r 27 gwladwriaeth arall sy’n rhan o’r UE.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
19 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
[Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7019 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
1. Yn nodi bod yr Undeb Ewropeaidd a’i ragflaenydd wedi bod yn rym cadarnhaol dros heddwch a sefydlogrwydd parhaus yn Ewrop ers ei sefydlu.
2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r safbwynt a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn pleidleisiau olynol ar 4 Rhagfyr 2018, 30 Ionawr 2019 a 5 Mawrth 2019.
3. Yn credu beth bynnag fydd canlyniad y negodiadau presennol, y dylai’r Deyrnas Unedig geisio cynnal y cysylltiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol agosaf posibl rhwng y DU a’r 27 gwladwriaeth arall sy’n rhan o’r UE.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
7 |
11 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.12
Dechreuodd yr eitem am 18.18
NDM7016 Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Gwasanaethau plant: amser am newid.
Dadl ar y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod gwasanaethau plant yn diogelu plant Cymru yn y ffordd orau.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.45
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Ebrill 2019